EIN STORI

  • Ty’n Llan yn ail-agor

    Diolch yn bennaf i waith caled y gwirfoddolwyr cafwyd popeth i’w le mewn pryd i ail-agor y bar.  Dechreuwyd sefydlu rhaglen o weithgareddau cymunedol i’r hen a’r ifanc - o foreau coffi a chlwb cerdded i glwb ieuenctid ‘Ty’n Llan Ni’ a chlwb dysgwyr Cymraeg.  Mae yna fwrlwm a bywyd bellach yn Ty’n Llan a disgwyl eiddgar am newyddion pellach am y cynlluniau adnewyddu a’r cyllido. 

  • Dathlu, clirio a chynllunio

    Aeth gwirfoddolwyr ati ar unwaith i dorri gwair a thacluso’r ardd a cynhaliwyd dau ddiwrnod o ddathlu awyr agored yn yr ardd fel blas o’r hyn oedd i ddod. Crëwyd hanner dwsin o is-bwyllgorau i gyd-lynnu gwaith gwirfoddol i baratoi’r adeilad ar gyfer ei ail-agor yn ei ffurf bresennol. Bu sawl diwrnod cymunedol o baentio, trwsio a glanhau. Gofynnwyd i’r pensaer Elinor Gray-Williams ddechrau cynllunio ar gyfer adnewyddu ac ehangu’r adeilad a chyflwynwyd dau opsiwn posib i gychwyn y drafodaeth gyda’r gymuned. Cychwynwyd ceisiadau am nifer o grantiau i helpu i ariannu’r cynlluniau hyn.  Ddiwedd Tachwedd penodwyd rheolwr dros dro a chriw o staff bar ifanc brwdfrydig.

  • Codi £464,800 mewn cyfranddaliadau a chwblhau’r pryniant

    Caeodd y cynnig ar 11 Mehefin 2021 ac erbyn cyfri a chadarnhau pob addewid cyhoeddwyd bod yr ymgyrch wedi llwyddo’n rhyfeddol, gan godi’r swm gwych o £464,800 mewn cyfalaf cymunedol i’r Gymdeithas.  Daeth y buddsoddiadau hyn gan gyfanswm o 1013 o aelodau, gyda hanner ohonynt yn dod o gôd post LL54 a mwyafrif y gweddill o wahanol rannau o Gymru. Roedd yna hefyd fuddsoddiadau o 28 o wledydd gwahanol ar draws y byd, gan ddangos apêl ryngwladol stori ein hymgyrch i achub ein tafarn leol.  Roedd hyn yn fwy na digon i’n galluogi i gwblhau pryniant yr adeilad ar 28 Mehefin 2021.

  • Lawnsio’r Cynnig i brynu Siârs a’r Cynllun Busnes

    Gyda chymorth Sefydliad Plunkett a Chanolfan Cydweithredol Cymru, aed ati i baratoi Cynllun Busnes a Chynnig i Fuddsoddi mewn Cyfranddaliadau yn y Gymdeithas a lansiwyd ymgyrch hyrwyddo egniol gyda tharged o £400,000. Cafwyd tipyn go lew o sylw ar y cyfryngau a negeseuon di-baid ar y cyfryngau torfol, gydag enwogion y byd chwaraeon a Hollywood yn datgan eu cefnogaeth.

  • Sefydlu Menter Ty’n Llan Cyf

    O ystyried yr angen i weithredu'n gyflym cytunwyd mai'r camau cyntaf oedd ceisio sicrhau digon o addewidion o fenthyciadau tymor byr i ganiatáu gwneud cynnig am yr eiddo, i gwblhau ffurfio a chofrestru’r Gymdeithas, ethol Pwyllgor ac yna i estyn gwahoddiad i fuddsoddi mewn cyfranddaliadau yn y fenter. Cylchredwyd holiadur a derbyniwyd mwy na 200 o ymatebion. Rhoddodd yr ymatebion  arwydd defnyddiol iawn o beth oedd blaenoriaethau'r gymuned ar gyfer Ty’n Llan, a pha wasanaethau oedd fwyaf tebygol o fod â galw amdanynt.  Yn dilyn derbyn adroddiad gan syrfëwr lleol aed i drafodaeth gyda’r asiant ac ar 10 Mawrth 2021, derbyniwyd ein cynnig o £325,000, yn amodol ar gytundeb, a thynnwyd yr eiddo oddi ar y farchnad.

  • Ty’n Llan ar werth

    Ym mis Chwefror 2021, cafwyd ar ddeall bod ysgutorion ystâd y perchennog yn bwriadu rhoi Ty’n Llan ar werth, ochr yn ochr ag asedau eraill.  Aeth nifer o'r rhai a oedd wedi bod yn trafod syniadau ati’n gyflym i alw cyfarfod cymunedol ar Zoom, ychydig ddyddiau cyn i'r gwerthiant gael ei hysbysebu. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn gyda dros 100 o bobl yn bresennol ac roedd yna gefnogaeth glir a chryf i'r syniad o sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol i brynu a rhedeg y dafarn er budd y gymuned.

  • Pandemig byd-eang Cofid-19

    Daeth y byd i stop yn 2020, pan drawodd pandemig byd-eang o’r Coronafirws C-19. Daeth y drafodaeth am ddyfodol Ty’n Llan i stop am y tro hefyd.

  • ‘Rhaid gwneud rhywbeth!’

    Bu farw’r perchennog yn 2019 ac awgrymodd sgyrsiau anffurfiol o fewn y gymuned fod yna awydd cryf i ‘wneud rhywbeth’ i achub y dafarn. Roedd gan nifer o’r pentrefwyr brofiad proffesiynol o weithio ym maes datblygu cymunedol a menter ac roeddent yn gyfarwydd ag egwyddorion a modelau ar gyfer mentrau sy'n eiddo i'r gymuned.

  • Cau Ty’n Llan

    Roedd y dafarn wedi bod yn eiddo preifat ers llawer o flynyddoedd ac yn cael ei rhedeg gan gyfres o denantiaid. Y mwyaf diweddar o’r rhain oedd y diweddar Huw Edwards (‘Huw Tacsis’) a’i wraig Enid.  Ym mis Rhagfyr 2017 penderfynodd y ddau  roi’r gorau i’r denantiaeth, ac fe gaewyd Ty’n Llan. Roedd diffyg man cyfarfod yn y pentref yn cael ei deimlo’n gryf.

  • Cyrchfan cerddoriaeth Cymraeg

    Edward H Dafis, Meic Stevens, Geraint Jarman, Crys, Brân, Hergest, Bando – dyna rai o enwau mawr y sîn roc Gymraeg oedd yn dod i Ty’n Llan i ymlacio, ac weithiau i gyfansoddi hyd yn oed (yn aml ar gefn matiau cwrw!), tra roedden nhw wrthi’n gwneud eu recordiau yn Stiwdio Sain o’r 70au ymlaen. Roedd y stiwdio gyntaf mewn hen feudy yn Gwernafalau ryw 300 medr o ganol y pentref, ac wedyn adeiladwyd stiwdio newydd yn hen adeiladau’r awyrlu ryw filltir a hanner i lawr y lôn.

  • Yr adeilad Fictoraidd

    Yng nghasgliad dogfennau stad Glynllifon mae cynllun pensaer o Dy’n Llan wedi ei ddyddio’n 1864, sy’n dangos cynllun o’r ddau lawr a golwg o ben blaen yr adeilad a thalcen ochr yr ardd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf mai dyma pryd y codwyd yr adeilad presennol. Efallai mai yn dilyn hyn y rhoddwyd enw Saesneg ar y dafarn yn ogystal â’r enw Cymraeg, gan mai yn 1865 y gwelwyd y cyfeiriad cynharaf at Harp Inn, Llandwrog. Er hynny, yr enw Cymraeg a gadwyd ar lafar.

  • Comisiynu englynion Eben Fardd

    Ddechrau’r flwyddyn hon y talwyd am yr englynion sydd ar y lechen ar ben blaen Ty’n Llan. Ar Ionawr 20, 1832 mae Eben Fardd (Ebenezer Thomas, 1802-1863) y bardd a’r ysgolfeistr o Glynnog, yn nodi yn ei ddyddiadur ei fod wedi derbyn deg swllt a chwe cheiniog, “being a gratuity from Lord Newborough [perchennog stad Glynllifon], for some Welsh and English lines I had composed at his Lordship’s request, to be put over the door of a public house at Llandwrog.” Mae’n bosib, wrth gwrs, na chafodd yr englynion eu defnyddio ar y pryd, hyd nes yr oedd adeilad newydd wedi ei godi.

  • Datblygu Llandwrog fel ‘pentref model’

    Pan ddaeth yr ail Arglwydd Newborough i oed yn 1823 dechreuodd gynllunio ac adeiladu pentref ‘model’ ar gyfer gweision a phensiynwyr ystâd Glynllifon, gan gychwyn gyda’r rhes o dai uncorn i’r dwyrain o’r dafarn.

  • Ty’n Llan ar y map

    Safai Ty’n Llan ar dir stad sylweddol Glynllifon. Mae map o’r stad yn 1751 yn cyfeirio at Ty’n Llan fel ‘Church Ale House and Garden’, gan ddangos yn bendant bod tafarn yno erbyn hynny.

  • Y cofnod cynharaf o dafarn ar y safle

    Daw’r cofnod cynharaf o dafarnwyr ym mhlwy Llandwrog o’r flwyddyn 1652, ac mae’n hollol bosib bod Ty’n Llan yno erbyn hynny. Ganrif ynghynt, yn 1552, y pasiwyd y ddeddf seneddol gyntaf yn gorfodi tafarnwyr i ymrwymo i gadw rheolaeth ar eu tafarndai. Dyma gychwyn y drefn o drwyddedu tafarndai, trefn sy’n dal yn orfodol heddiw.

16 Rhagfyr 2021Gorffennaf-Tachwedd 2021Mehefin 2021Ebrill 2021Mawrth 2021Chwefror 2021Mawrth 20202020Rhagfyr 20171970au ymlaen1906186418321830au17511652
  • 16 Rhagfyr 2021

    Ty’n Llan yn ail-agor

    Diolch yn bennaf i waith caled y gwirfoddolwyr cafwyd popeth i’w le mewn pryd i ail-agor y bar.  Dechreuwyd sefydlu rhaglen o weithgareddau cymunedol i’r hen a’r ifanc - o foreau coffi a chlwb cerdded i glwb ieuenctid ‘Ty’n Llan Ni’ a chlwb dysgwyr Cymraeg.  Mae yna fwrlwm a bywyd bellach yn Ty’n Llan a disgwyl eiddgar am newyddion pellach am y cynlluniau adnewyddu a’r cyllido. 

  • Gorffennaf-Tachwedd 2021

    Dathlu, clirio a chynllunio

    Aeth gwirfoddolwyr ati ar unwaith i dorri gwair a thacluso’r ardd a cynhaliwyd dau ddiwrnod o ddathlu awyr agored yn yr ardd fel blas o’r hyn oedd i ddod. Crëwyd hanner dwsin o is-bwyllgorau i gyd-lynnu gwaith gwirfoddol i baratoi’r adeilad ar gyfer ei ail-agor yn ei ffurf bresennol. Bu sawl diwrnod cymunedol o baentio, trwsio a glanhau. Gofynnwyd i’r pensaer Elinor Gray-Williams ddechrau cynllunio ar gyfer adnewyddu ac ehangu’r adeilad a chyflwynwyd dau opsiwn posib i gychwyn y drafodaeth gyda’r gymuned. Cychwynwyd ceisiadau am nifer o grantiau i helpu i ariannu’r cynlluniau hyn.  Ddiwedd Tachwedd penodwyd rheolwr dros dro a chriw o staff bar ifanc brwdfrydig.

  • Mehefin 2021

    Codi £464,800 mewn cyfranddaliadau a chwblhau’r pryniant

    Caeodd y cynnig ar 11 Mehefin 2021 ac erbyn cyfri a chadarnhau pob addewid cyhoeddwyd bod yr ymgyrch wedi llwyddo’n rhyfeddol, gan godi’r swm gwych o £464,800 mewn cyfalaf cymunedol i’r Gymdeithas.  Daeth y buddsoddiadau hyn gan gyfanswm o 1013 o aelodau, gyda hanner ohonynt yn dod o gôd post LL54 a mwyafrif y gweddill o wahanol rannau o Gymru. Roedd yna hefyd fuddsoddiadau o 28 o wledydd gwahanol ar draws y byd, gan ddangos apêl ryngwladol stori ein hymgyrch i achub ein tafarn leol.  Roedd hyn yn fwy na digon i’n galluogi i gwblhau pryniant yr adeilad ar 28 Mehefin 2021.

  • Ebrill 2021

    Lawnsio’r Cynnig i brynu Siârs a’r Cynllun Busnes

    Gyda chymorth Sefydliad Plunkett a Chanolfan Cydweithredol Cymru, aed ati i baratoi Cynllun Busnes a Chynnig i Fuddsoddi mewn Cyfranddaliadau yn y Gymdeithas a lansiwyd ymgyrch hyrwyddo egniol gyda tharged o £400,000. Cafwyd tipyn go lew o sylw ar y cyfryngau a negeseuon di-baid ar y cyfryngau torfol, gydag enwogion y byd chwaraeon a Hollywood yn datgan eu cefnogaeth.

  • Mawrth 2021

    Sefydlu Menter Ty’n Llan Cyf

    O ystyried yr angen i weithredu'n gyflym cytunwyd mai'r camau cyntaf oedd ceisio sicrhau digon o addewidion o fenthyciadau tymor byr i ganiatáu gwneud cynnig am yr eiddo, i gwblhau ffurfio a chofrestru’r Gymdeithas, ethol Pwyllgor ac yna i estyn gwahoddiad i fuddsoddi mewn cyfranddaliadau yn y fenter. Cylchredwyd holiadur a derbyniwyd mwy na 200 o ymatebion. Rhoddodd yr ymatebion  arwydd defnyddiol iawn o beth oedd blaenoriaethau'r gymuned ar gyfer Ty’n Llan, a pha wasanaethau oedd fwyaf tebygol o fod â galw amdanynt.  Yn dilyn derbyn adroddiad gan syrfëwr lleol aed i drafodaeth gyda’r asiant ac ar 10 Mawrth 2021, derbyniwyd ein cynnig o £325,000, yn amodol ar gytundeb, a thynnwyd yr eiddo oddi ar y farchnad.

  • Chwefror 2021

    Ty’n Llan ar werth

    Ym mis Chwefror 2021, cafwyd ar ddeall bod ysgutorion ystâd y perchennog yn bwriadu rhoi Ty’n Llan ar werth, ochr yn ochr ag asedau eraill.  Aeth nifer o'r rhai a oedd wedi bod yn trafod syniadau ati’n gyflym i alw cyfarfod cymunedol ar Zoom, ychydig ddyddiau cyn i'r gwerthiant gael ei hysbysebu. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn gyda dros 100 o bobl yn bresennol ac roedd yna gefnogaeth glir a chryf i'r syniad o sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol i brynu a rhedeg y dafarn er budd y gymuned.

  • Mawrth 2020

    Pandemig byd-eang Cofid-19

    Daeth y byd i stop yn 2020, pan drawodd pandemig byd-eang o’r Coronafirws C-19. Daeth y drafodaeth am ddyfodol Ty’n Llan i stop am y tro hefyd.

  • 2020

    ‘Rhaid gwneud rhywbeth!’

    Bu farw’r perchennog yn 2019 ac awgrymodd sgyrsiau anffurfiol o fewn y gymuned fod yna awydd cryf i ‘wneud rhywbeth’ i achub y dafarn. Roedd gan nifer o’r pentrefwyr brofiad proffesiynol o weithio ym maes datblygu cymunedol a menter ac roeddent yn gyfarwydd ag egwyddorion a modelau ar gyfer mentrau sy'n eiddo i'r gymuned.

  • Rhagfyr 2017

    Cau Ty’n Llan

    Roedd y dafarn wedi bod yn eiddo preifat ers llawer o flynyddoedd ac yn cael ei rhedeg gan gyfres o denantiaid. Y mwyaf diweddar o’r rhain oedd y diweddar Huw Edwards (‘Huw Tacsis’) a’i wraig Enid.  Ym mis Rhagfyr 2017 penderfynodd y ddau  roi’r gorau i’r denantiaeth, ac fe gaewyd Ty’n Llan. Roedd diffyg man cyfarfod yn y pentref yn cael ei deimlo’n gryf.

  • 1970au ymlaen

    Cyrchfan cerddoriaeth Cymraeg

    Edward H Dafis, Meic Stevens, Geraint Jarman, Crys, Brân, Hergest, Bando – dyna rai o enwau mawr y sîn roc Gymraeg oedd yn dod i Ty’n Llan i ymlacio, ac weithiau i gyfansoddi hyd yn oed (yn aml ar gefn matiau cwrw!), tra roedden nhw wrthi’n gwneud eu recordiau yn Stiwdio Sain o’r 70au ymlaen. Roedd y stiwdio gyntaf mewn hen feudy yn Gwernafalau ryw 300 medr o ganol y pentref, ac wedyn adeiladwyd stiwdio newydd yn hen adeiladau’r awyrlu ryw filltir a hanner i lawr y lôn.

  • 1864

    Yr adeilad Fictoraidd

    Yng nghasgliad dogfennau stad Glynllifon mae cynllun pensaer o Dy’n Llan wedi ei ddyddio’n 1864, sy’n dangos cynllun o’r ddau lawr a golwg o ben blaen yr adeilad a thalcen ochr yr ardd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf mai dyma pryd y codwyd yr adeilad presennol. Efallai mai yn dilyn hyn y rhoddwyd enw Saesneg ar y dafarn yn ogystal â’r enw Cymraeg, gan mai yn 1865 y gwelwyd y cyfeiriad cynharaf at Harp Inn, Llandwrog. Er hynny, yr enw Cymraeg a gadwyd ar lafar.

  • 1832

    Comisiynu englynion Eben Fardd

    Ddechrau’r flwyddyn hon y talwyd am yr englynion sydd ar y lechen ar ben blaen Ty’n Llan. Ar Ionawr 20, 1832 mae Eben Fardd (Ebenezer Thomas, 1802-1863) y bardd a’r ysgolfeistr o Glynnog, yn nodi yn ei ddyddiadur ei fod wedi derbyn deg swllt a chwe cheiniog, “being a gratuity from Lord Newborough [perchennog stad Glynllifon], for some Welsh and English lines I had composed at his Lordship’s request, to be put over the door of a public house at Llandwrog.” Mae’n bosib, wrth gwrs, na chafodd yr englynion eu defnyddio ar y pryd, hyd nes yr oedd adeilad newydd wedi ei godi.

  • 1830au

    Datblygu Llandwrog fel ‘pentref model’

    Pan ddaeth yr ail Arglwydd Newborough i oed yn 1823 dechreuodd gynllunio ac adeiladu pentref ‘model’ ar gyfer gweision a phensiynwyr ystâd Glynllifon, gan gychwyn gyda’r rhes o dai uncorn i’r dwyrain o’r dafarn.

  • 1751

    Ty’n Llan ar y map

    Safai Ty’n Llan ar dir stad sylweddol Glynllifon. Mae map o’r stad yn 1751 yn cyfeirio at Ty’n Llan fel ‘Church Ale House and Garden’, gan ddangos yn bendant bod tafarn yno erbyn hynny.

  • 1652

    Y cofnod cynharaf o dafarn ar y safle