Wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn, daeth yr holl waith adeiladu i ben, ac agorwyd Tafarn Ty’n Llan unwaith eto, y tro hwn ar ei newydd wedd. Heddiw mae yma bum ystafell wely fodern a moethus, gofod cymunedol newydd a bwyty newydd, eang. Mae staff parhaol wedi eu penodi, a phrydau blasus yn cael eu paratoi yn y gegin newydd. Mae Ty’n Llan unwaith eto dan ei sang, yn cynnal digwyddiadau cymunedol o bob math, ac yn croesawu ymwelwyr o bell ac agos.
Felly galwch draw! Dewch i brofi’r hanes, y dreftadaeth a’r croeso cymunedol sy’n aros amdanoch yn Ty’n Llan.