Adeiladwyd y Ty’n Llan presennol yn yr 1860au yn rhan o stad Glynllifon. Mae’n adeilad hanesyddol a thrawiadol rhestredig Gradd II ac yn galon i bentref hardd Llandwrog. O Eben Fardd i Edward H – mae beirdd, cantorion ac enwogion o fri wedi cwrdd yma ar hyd y blynyddoedd.
Amdanom Ni
Bywyd teg
Byd diogel
Caewyd y drysau yn 2017 a chollodd y pentref yr unig le i gwrdd a chymdeithasu. Ym mis Chwefror 2021 dangosodd dros 100 o bentrefwyr eu brwdfrydedd dros ddiogelu dyfodol Ty’n Llan a phenderfynwyd cychwyn ymgyrch i brynu’r adeilad ar frys. Sefydlwyd Menter Ty’n Llan, Cymdeithas Budd Cymunedol, a llwyddwyd i godi dros £400,000 mewn cyfranddaliadau gyda 14 aelod profiadol ar y Pwyllgor Rheoli. Nawr rhaid codi cannoedd o filoedd o bunnau er mwyn trawsnewid Ty’n Llan yn ganolbwynt cymunedol cyfoes a chyffrous.
A diod dda doed a ddel
Ail-agorwyd drysau Ty’n Llan dros dro ym mis Rhagfyr 2021 a mae’r gwaith o godi arian yn dal i barhau. Trwy gyrraedd y nod ariannol, bydd modd cyflawni ein gweledigaeth lawn o far, cegin a bwyty cyfoes, 5 ystafell wely en-suite, estyniad gwydr gyda golygfeydd o’r Eifl, ystafell gymunedol ar gyfer cyfarfodydd, cymdeithasau a chlybiau, gardd gwrw ddeniadol i’r teulu cyfan gyda chegin allanol a digonedd o le parcio gyda phwynt gwefru ar gyfer ceir trydan.
Y Staff
Mae’r fenter yn cyflogi 12 o bobl leol llawn a rhan amser ar hyn o bryd – Rheolwr, Cogydd, Cydlynydd Prosiect, bar staff, staff cegin a staff bar. Ydych chi â diddordeb gweithio tu ôl i’r bar neu yn y gegin? Cysylltwch â ni!
Menter Ty’n Llan
Cryfder y fenter yw nifer ei haelodau a’i gwirfoddolwyr. Mae pob cyfranddaliwr yn aelod o’r Gymdeithas, a mae dros 1000 o aelodau hyd yn hyn. Mae dros 30 o aelodau ar bwyllgorau’r fenter hefyd sef y Pwyllgor Rheoli a 6 is-bwyllgor sy’n gyfrifol am wahanol feysydd ac arbenigeddau: Gweithrediadau Busnes; Marchnata, Brandio a Chyfathrebu; Adnewyddu a Chynnal a Chadw; Bwyd a Diod; Yr Ardal Allanol a’r Ardd; Digwyddiadau ac Adloniant. Mae’r pwyllgorau hyn yn sicrhau bod Ty’n Llan yn cael ei ddatblygu a’i redeg yn effeithiol ac yn cyflawni tasgau penodol ar ei rhan.
Y Pwyllgor Rheoli
Mae 15 aelod profiadol ar Bwyllgor Rheoli Menter Ty’n Llan: