1864 - Yr adeilad Fictoraidd

Yng nghasgliad dogfennau stad Glynllifon mae cynllun pensaer o Dy’n Llan wedi ei ddyddio’n 1864, sy’n dangos cynllun o’r ddau lawr a golwg o ben blaen yr adeilad a thalcen ochr yr ardd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf mai dyma pryd y codwyd yr adeilad presennol. Efallai mai yn dilyn hyn y rhoddwyd enw Saesneg ar y dafarn yn ogystal â’r enw Cymraeg, gan mai yn 1865 y gwelwyd y cyfeiriad cynharaf at Harp Inn, Llandwrog. Er hynny, yr enw Cymraeg a gadwyd ar lafar.