Y Cwt Gwerthu – Siop Gymunedol
Cynnyrch lleol, hanfodion bwyd ac ambell beth moethus. Bara a llefrith ffres, cigoedd, cacennau a llawer mwy!
Ar agor pob dydd yn yr ardd 8am-8pm, system taliadau gonestrwydd trwy gerdyn neu arian parod.
”Mae o’n briliant! Mae o’n gyfle i ddod i adnabod ein cyfoedion yn dda ac wedi creu cyfeillgarwch clos rhyngthon ni.
RhiainLlandwrog
ebrill, 2024
Mae tafarn Ty’n Llan yn eiddo i’r gymuned ac wedi ei leoli ym mhentref tlws Llandwrog ger Caernarfon yng Ngwynedd. Nepell o Barc Glynllifon, tref hanesyddol Caernarfon, mynyddoedd yr Eifl a thraeth godidog Dinas Dinlle – dewch draw i gael diod yn awyrgylch braf a Chymreig yr adeilad hanesyddol hwn.