Mehefin 2021 - Codi £464,800 mewn cyfranddaliadau a chwblhau’r pryniant

Caeodd y cynnig ar 11 Mehefin 2021 ac erbyn cyfri a chadarnhau pob addewid cyhoeddwyd bod yr ymgyrch wedi llwyddo’n rhyfeddol, gan godi’r swm gwych o £464,800 mewn cyfalaf cymunedol i’r Gymdeithas. 

Daeth y buddsoddiadau hyn gan gyfanswm o 1013 o aelodau, gyda hanner ohonynt yn dod o gôd post LL54 a mwyafrif y gweddill o wahanol rannau o Gymru. Roedd yna hefyd fuddsoddiadau o 28 o wledydd gwahanol ar draws y byd, gan ddangos apêl ryngwladol stori ein hymgyrch i achub ein tafarn leol. 

Roedd hyn yn fwy na digon i’n galluogi i gwblhau pryniant yr adeilad ar 28 Mehefin 2021.