Gyda rhan helaeth y gwaith adnewyddu wedi ei gwblhau ar y llawr gwaelod, dyma ail-agor bar Ty’n Llan ym mis Gorffennaf 2025. Gyda Rheolwr Busnes a Swyddog Cymunedol parhaol wrth y llyw, dyma groesawu ffrindiau hen a newydd i’r dafarn trwy gydol yr haf, gan ail-ddechrau cynnal digwyddiadau o bob math nes bod y dafarn yn fwrlwm o fywyd unwaith eto.