16 Rhagfyr 2021 - Ty’n Llan yn ail-agor

Diolch yn bennaf i waith caled y gwirfoddolwyr cafwyd popeth i’w le mewn pryd i ail-agor y bar. 

Dechreuwyd sefydlu rhaglen o weithgareddau cymunedol i’r hen a’r ifanc – o foreau coffi a chlwb cerdded i glwb ieuenctid ‘Ty’n Llan Ni’ a chlwb dysgwyr Cymraeg. 

Mae yna fwrlwm a bywyd bellach yn Ty’n Llan a disgwyl eiddgar am newyddion pellach am y cynlluniau adnewyddu a’r cyllido.