Chwefror 2021 - Ty’n Llan ar werth

Ym mis Chwefror 2021, cafwyd ar ddeall bod ysgutorion ystâd y perchennog yn bwriadu rhoi Ty’n Llan ar werth, ochr yn ochr ag asedau eraill. 

Aeth nifer o’r rhai a oedd wedi bod yn trafod syniadau ati’n gyflym i alw cyfarfod cymunedol ar Zoom, ychydig ddyddiau cyn i’r gwerthiant gael ei hysbysebu.

Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn gyda dros 100 o bobl yn bresennol ac roedd yna gefnogaeth glir a chryf i’r syniad o sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol i brynu a rhedeg y dafarn er budd y gymuned.