Er mor braf oedd cael bwrlwm yn y dafarn unwaith eto, roedd dirfawr angen moderneiddio a datblygu’r lle er mwyn creu tafarn fodern, foethus fyddai’n denu pobl o bell ac agos, yn rhoi sylw i’n treftadaeth leol, ac yn creu incwm cynaliadwy, hirdymor.
Felly, ar ôl sicrhau nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chodi arian siârs, roedd hi’n amser i’r adeiladwyr ddechrau ar yr ail gyfnod o adnewyddu.
Y tro hwn, byddai’r gwaith yn trawsnewid Ty’n Llan yn ganolfan gymunedol gyfoes a chyffrous. Yno byddai bar eang, cegin a bwyty modern a phum ystafell wely foethus gydag en-suite. Byddem hefyd yn codi estyniad ar y cefn gyda golygfeydd o’r Eifl, yn codi stafell gymunedol newydd ar gyfer cyfarfodydd, cymdeithasau a chlybiau, a chreu gardd gwrw ddeniadol i’r teulu cyfan gyda chegin awyr agored a digon o le parcio gyda phwynt gwefru ar gyfer ceir trydan.
Roedd ein cynlluniau hefyd yn sicrhau bod treftadaeth Ty’n Llan a phentref Llandwrog yn rhan annatod o ddyluniad y dafarn. Gallwch ddysgu mwy am yr elfennau hyn ar y dudalen Treftadaeth.