Ddechrau’r flwyddyn hon y talwyd am yr englynion sydd ar y lechen ar ben blaen Ty’n Llan. Ar Ionawr 20, 1832 mae Eben Fardd (Ebenezer Thomas, 1802-1863) y bardd a’r ysgolfeistr o Glynnog, yn nodi yn ei ddyddiadur ei fod wedi derbyn deg swllt a chwe cheiniog, “being a gratuity from Lord Newborough [perchennog stad Glynllifon], for some Welsh and English lines I had composed at his Lordship’s request, to be put over the door of a public house at Llandwrog.” Mae’n bosib, wrth gwrs, na chafodd yr englynion eu defnyddio ar y pryd, hyd nes yr oedd adeilad newydd wedi ei godi.