Ymholiadau cyffredinol: gallwch lenwi’r ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Cyfeiriad
Ty’n Llan, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SY
Mae’r dafarn wedi ei lleoli yng nghanol pentref Llandwrog ger Caernarfon, ac mae’n ddigon hawdd cyrraedd yma mewn car. Mae digon o le parcio ar y safle, a phwyntiau gwefru ar gyfer 2 gerbyd trydan.
Cyrraedd yma
Beic: Beth am logi beic o Gaernarfon a beicio draw? Gallwch logi beics o bob math o Beics Antur yng nghanol y dref ac yna beicio yma ar hyd lonydd tawel y wlad.
Bws: Gallwch ddal y 6G o Gaernarfon i Landwrog. Mae’r safle bws agosaf dafliad carreg o’r dafarn. Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Pwllheli, gallwch ddal bws 12, a dod oddi ar y bws yn stop ‘Llandwrog, Groeslon Ffrwd’. Wedyn gallwch droi i’r chwith lawr lôn gul a cherdded am ddeg munud i gyrraedd Ty’n Llan.
Trên: Yr orsaf trên agosaf yw Bangor, 15 milltir i ffwrdd. Gallwch ddal bws o Fangor i Gaernarfon, ac yna o Gaernarfon i Landwrog. Neu, gallwch archebu tacsi i ddod a chi yma i Ty’n Llan.
I wirio amseroedd teithio ac ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth cyhoeddus, cysylltwch â Traveline Cymru.
Cyfeiriad3gair: brysiwn.cochddu.platiau