Gorffennaf-Tachwedd 2021 - Dathlu, clirio a chynllunio

Aeth gwirfoddolwyr ati ar unwaith i dorri gwair a thacluso’r ardd a cynhaliwyd dau ddiwrnod o ddathlu awyr agored yn yr ardd fel blas o’r hyn oedd i ddod.

Crëwyd hanner dwsin o is-bwyllgorau i gyd-lynnu gwaith gwirfoddol i baratoi’r adeilad ar gyfer ei ail-agor yn ei ffurf bresennol. Bu sawl diwrnod cymunedol o baentio, trwsio a glanhau.

Gofynnwyd i’r pensaer Elinor Gray-Williams ddechrau cynllunio ar gyfer adnewyddu ac ehangu’r adeilad a chyflwynwyd dau opsiwn posib i gychwyn y drafodaeth gyda’r gymuned. Cychwynwyd ceisiadau am nifer o grantiau i helpu i ariannu’r cynlluniau hyn. 

Ddiwedd Tachwedd penodwyd rheolwr dros dro a chriw o staff bar ifanc brwdfrydig.