Aros
Os am rywle braf a chartrefol i aros yn Eryri, yna Ty’n Llan yw’r lle. Yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol, mae Ty’n Llan bellach yn cynnwys pump o ystafelloedd gwely moethus, pob un ag en-suite. Mae hanes a threftadaeth yr ardal i’w gweld ym mhob stafell; o’r gwaith celf unigryw sy’n adlewyrchu’r dirwedd leol i’r pengwelyau trawiadol o wlan Cymreig hen a newydd, wedi’u nyddu’n lleol.
Mae’r stafelloedd wedi eu henwi ar ôl cymeriadau o chwedlau’r Mabiniogion, straeon cynharaf yr iaith Gymraeg sy’n rhan annatod o ddiwylliant a chwedloniaeth Cymru. Cliciwch ar yr ystafelloedd uchod i weld pa un fyddai’n gweddu orau i chi. Mae Lleu yn ystafell gwbl hygyrch, sy’n cynnwys stafell ymolchi gyda chawod agored, ac mae modd cael mynediad i’r stafell yn syth o’r lifft.




