Ar yr un pryd roedd rhan gynta’r gwaith adnewyddu hanfodol ar waith, gan gynnwys sychu’r waliau, ail doi’r holl adeilad, a thrwsio a phaentio’r ffenestri i gyd.
Dyma ddechrau hefyd ar gyfnod o ymgynghori efo’r gymuned, i sicrhau y byddai Ty’n Llan ar ei newydd wedd yn darparu’r hyn yr oedd pobl Llandwrog isio yn eu tafarn leol.