Bu farw’r perchennog yn 2019 ac awgrymodd sgyrsiau anffurfiol o fewn y gymuned fod yna awydd cryf i ‘wneud rhywbeth’ i achub y dafarn. Roedd gan nifer o’r pentrefwyr brofiad proffesiynol o weithio ym maes datblygu cymunedol a menter ac roeddent yn gyfarwydd ag egwyddorion a modelau ar gyfer mentrau sy’n eiddo i’r gymuned.