1652 - Y cofnod cynharaf o dafarn ar y safle

Daw’r cofnod cynharaf o dafarnwyr ym mhlwy Llandwrog o’r flwyddyn 1652, ac mae’n hollol bosib bod Ty’n Llan yno erbyn hynny.

Ganrif ynghynt, yn 1552, y pasiwyd y ddeddf seneddol gyntaf yn gorfodi tafarnwyr i ymrwymo i gadw rheolaeth ar eu tafarndai. Dyma gychwyn y drefn o drwyddedu tafarndai, trefn sy’n dal yn orfodol heddiw.