Edward H Dafis, Meic Stevens, Geraint Jarman, Crys, Brân, Hergest, Bando – dyna rai o enwau mawr y sîn roc Gymraeg oedd yn dod i Ty’n Llan i ymlacio, ac weithiau i gyfansoddi hyd yn oed (yn aml ar gefn matiau cwrw!), tra roedden nhw wrthi’n gwneud eu recordiau yn Stiwdio Sain o’r 70au ymlaen. Roedd y stiwdio gyntaf mewn hen feudy yn Gwernafalau ryw 300 medr o ganol y pentref, ac wedyn adeiladwyd stiwdio newydd yn hen adeiladau’r awyrlu ryw filltir a hanner i lawr y lôn.