Golygfeydd godidog, gwasanaeth heb ei ail a bwyd cartref blasus
Ty’n Llan – Ble mae hanes a chymuned yn cwrdd
Tafarn gymunedol fywiog ydy Ty’n Llan, a gaiff ei chynnal a’i chefnogi gan Gymdeithas Budd Cymunedol Menter Ty’n Llan. Wedi ei lleoli yng nghanol pentref Llandwrog ger Caernarfon, mae yma ystafelloedd moethus, bwyd cartref blasus, bar llawn cynnyrch lleol, stafelloedd i’w llogi, a siop fach gymunedol.
Mae’r cofnod cyntaf o’r dafarn yn dyddio nôl i’r flwyddyn 1652, ond codwyd yr adeilad presennol yn y 1860au fel rhan o ystâd Glynllifon.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II wedi bod yn fan cwrdd poblogaidd dros y degawdau, ac yn parhau i fod yn fwrlwm o fywyd, dan ofal y gymuned leol.
ein horiau agor
Dydd Llun
12:00-22:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Mawrth
12:00-22:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Mercher
12:00-22:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Iau
12:00-22:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Gwener
10:30-23:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Sadwrn
12:00-23:00
Bwyd 12:00-21:00
Dydd Sul
12:00-20:00
Bwyd 12:00-19:00
Digwyddiadau
Mae Ty’n Llan yn fwy na thafarn; mae Ty’n Llan yn le i’r gymuned ddod at ei gilydd, i gymdeithasu a rhoi’r byd yn ei le dros ddiod neu ddau. O gwis i gigs a chlwb sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg, mae croeso cynnes yma bob amser.
Cliciwch ar y digwyddiadau isod am ragor o wybodaeth.
Byddwn yn defnyddio eich manylion er mwyn rhannu gwybodaeth yn achlysurol am Ty’n Llan. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.
DOD O HYD I NI
Ty’n Llan, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SY
CYRRAEDD YMA
Mae’r dafarn wedi ei lleoli yng nghanol pentref Llandwrog ger Caernarfon, ac mae’n ddigon hawdd cyrraedd yma mewn car. Mae digon o le parcio ar y safle, a phwyntiau gwefru ar gyfer 2 gerbyd trydan.
Beic: Beth am logi beic o Gaernarfon a beicio draw? Gallwch logi beics o bob math o Beics Antur yng nghanol y dref ac yna beicio yma ar hyd lonydd tawel y wlad.
Bws: Gallwch ddal y 6G o Gaernarfon i Landwrog. Mae’r safle bws agosaf dafliad carreg o’r dafarn. Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Pwllheli, gallwch ddal bws 12, a dod oddi ar y bws yn stop ‘Llandwrog, Groeslon Ffrwd’. Wedyn gallwch droi i’r chwith lawr lôn gul a cherdded am ddeg munud i gyrraedd Ty’n Llan.
Trên: Yr orsaf trên agosaf yw Bangor, 15 milltir i ffwrdd. Gallwch ddal bws o Fangor i Gaernarfon, ac yna o Gaernarfon i Landwrog. Neu, gallwch archebu tacsi i ddod a chi yma i Ty’n Llan.
I wirio amseroedd teithio ac ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth cyhoeddus, cysylltwch â Traveline Cymru.
Cyfeiriad3gair: brysiwn.cochddu.platiau
DEWCH I DDARGANFOD
Mae cyfoeth o natur a gweithgareddau ar garreg ein drws

