Mewn cwt yng ngardd y dafarn, agorwyd y Cwt Gwerthu – cwt yn llawn dop o gynnyrch lleol, o gig a llysiau i fferins a diod, a nwyddau Ty’n Llan wrth gwrs. Ar agor rhwng 8yb ac 8yh, a gyda system gonestrwydd hawdd i’w dilyn mewn lle, dyma fan cyfleus i drigolion y pentref brynu nwyddau sylfaenol – ychwanegiad gwych i Ty’n Llan.