Mawrth 2021 - Sefydlu Menter Ty’n Llan Cyf

O ystyried yr angen i weithredu’n gyflym cytunwyd mai’r camau cyntaf oedd ceisio sicrhau digon o addewidion o fenthyciadau tymor byr i ganiatáu gwneud cynnig am yr eiddo, i gwblhau ffurfio a chofrestru’r Gymdeithas, ethol Pwyllgor ac yna i estyn gwahoddiad i fuddsoddi mewn cyfranddaliadau yn y fenter.

Cylchredwyd holiadur a derbyniwyd mwy na 200 o ymatebion. Rhoddodd yr ymatebion  arwydd defnyddiol iawn o beth oedd blaenoriaethau’r gymuned ar gyfer Ty’n Llan, a pha wasanaethau oedd fwyaf tebygol o fod â galw amdanynt. 

Yn dilyn derbyn adroddiad gan syrfëwr lleol aed i drafodaeth gyda’r asiant ac ar 10 Mawrth 2021, derbyniwyd ein cynnig o £325,000, yn amodol ar gytundeb, a thynnwyd yr eiddo oddi ar y farchnad.