Cefnogi

Bydd y gost o adnewyddu adeilad hanesyddol Ty’n Llan a’i wneud yn adnodd addas i’r ganrif hon yn sylweddol iawn a rydym angen cefnogaeth pob ceiniog posib!

Dyma sut gallwch chi ein helpu:

Buddsoddi

Mae’r cynnig i brynu cyfranddaliadau ym Menter Ty’n Llan bellach ar gau, ond mae’n bosib iawn y bydd y cynnig yn ail-agor yn y dyfodol. Cadwch lygad ar y wefan, y cyfryngau cymdeithasol neu tanysgrifiwch i’n cylchlylthyr am y newyddion diweddaraf.

Rhodd Ariannol

Os na chawsoch chi gyfle i brynu cyfranddaliad, neu os hoffech ein cefnogi ond ddim â diddordeb bod yn gyfranddaliwr, mae croeso i chi roi rhodd ariannol i’r fenter. Yn fach neu’n fawr mae pob ceiniog yn cyfri. Cysylltwch â’r Trysorydd ar siars@tynllan.cymru 

Gwirfoddoli

Mae pob menter gymunedol yn dibynnu llawer ar wirfoddolwyr. Efallai y gallwch helpu i weini paned a chacen ar fore Gwener, gwirfoddoli mewn sesiynau i blant neu’r henoed, trefnu digwyddiad, helpu yn yr ardd neu gwblhau mân dasgau cynnal a chadw. Os hoffech gynnig eich amser, eich sgiliau neu eich gwasanaethau am ddim, cysylltwch â ni ar post@tynllan.cymru.

Prynu Nwyddau

Mae casgliad arbennig o nwyddau gan gwmni lleol wedi cael eu cynhyrchu i ni gyda’r holl elw’n mynd i’r fenter. Yn cynnwys crysau t, gwydr peint, gwaith celf a siocled, mae rhywbeth at boced pawb. 

Gweld y nwyddau

(bydd y linc yn mynd â chi i wefan allanol)

Cymorth Grant

Mae Menter Ty’n Llan Cyf yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth y cyrff canlynol sydd wedi cyfrannu’n ariannol at y fenter a’r cynllun adnewyddu:

Cefnogwyd y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.