Mae angen gwaith helaeth ar yr adeilad presennol. Uchelgais Menter Ty’n Llan yw ailfodelu’r safle, gan ddefnyddio sgiliau pensaer lleol sy’n arbenigo mewn treftadaeth a chadwraeth i:
Ein Cynlluniau
Adnewyddu ac ailfodelu'r tu mewn yn llwyr, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf cynhyrchiol o’r gofod
Estyniad yn y cefn gyda ffenestri'n edrych i'r de tuag at yr Eifl, i'w defnyddio'n bennaf fel man bwyta a stafell gymunedol ar gyfer digwyddiau mwy
Pum ystafell wely en-suite ar y llawr cyntaf
Ystafell amlbwrpas sydd ar gael i'w llogi am dâl rhesymol gan gymdeithasau a digwyddiadau preifat
Ardal barcio newydd gyda mannau parcio anabl a phwyntiau gwefru cerbydau a beiciau trydan
Gardd ddeniadol sy'n croesawu teuluoedd
Dehongliad treftadaeth sy'n rhoi profiad cyfoethog i ymwelwyr
Rhaglen o weithgareddau treftadaeth a fydd yn synnu ac yn ehangu gorwelion
Bydd y Gymdeithas yn mabwysiadu ac yn monitro côd ecolegol a pholisi amgylcheddol, a bydd y gwaith adnewyddu yn waith carbon sero net a fydd yn defnyddio methodoleg adrodd gydnabyddedig ryngwladol.
Y Cynllun Arfaethedig
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chostio gan faintfesurydd, mae cynllun wedi ei ddewis ar gyfer adnewyddu’r adeilad a gwireddu’n huchelgais. Mae’r cynllun arfaethedig yn sensitif i anghenion cadwraethol yr adeilad ac o fewn cyrraedd os byddwn yn llwyddiannus gyda’n ceisiadau am grantiau. Mae’n cynnwys 4 ystafell wely ddwbwl ag 1 swît/ystafell wely deuluol, i gyd gydag ystafelloedd ymolchi en suite. Ar safle’r hen gytiau moch bydd ystafell fwyta wydr yn cael ei chodi, wedi ei chysylltu i’r prif adeilad gyda linc gwydr. Bydd y toiledau a’r gegin yn cael eu hadnewyddu’n llwyr a’r hen stabl yn cael ei throi’n ystafell gymunedol. Ni fydd newidiadau mawr i’r dafarn ei hun a ni fydd unrhyw newidiadau i flaen yr adeilad.
Mae’r pensaer wedi cyflwyno rhai addasiadau pellach i’r cynllun ddangosir isod a byddant ar gael i’w gweld yn fuan. Mae’r gwaith o fynd ar ôl grantiau newydd ar gyfer ariannu’r holl ddatblygiad yn parhau.