Buddsoddi 2023

Rydym angen eich cefnogaeth unwaith eto i godi £150,000 arall

Menter Ty’n Llan

Ein cynnig i brynu cyfranddaliadau

Dyddiad cau i brynu cyfranddaliadau:
*Bydd y cynnig yma yn aros ar agor am gyfnod amhenodol!

  • 1652 – tystiolaeth hanesyddol cyntaf o dafarn ar y safle
  • 1862 – y flwyddyn adeiladwyd yr adeilad presennol 2017 – y dafarn yn cau a sefyll yn wag am 4 blynedd
  • 2021 – dros 1000 o gyfranddalwyr yn helpu’r gymuned i’w phrynu; ail-agor y drysau erbyn y Nadolig
  • 2022 – sefydlu rhaglen lawn o weithgareddau, cychwyn gweini bwyd; cwblhau Cam 1 o’r gwaith adnewyddu hanfodol
  • 2023 – dros 80 o wirfoddolwyr a 12 o staff yn parhau i ddatblygu gwasanaethau’r dafarn; ail-agor y cynnig i brynu siars
  • 2024 – cwblhau Cam 2 o’r gwaith adnewyddu uchelgeisiol – os y gallwn godi mwy o arian!

Mae’r dyfodol yn eich dwylo chi…

…rydym angen eich cefnogaeth a’ch buddsoddiad unwaith eto
…dewch yn berchen rhan o dafarn hanesyddol fydd â’r cyfleusterau cyfoes gorau a chael llais yn sut caiff ei rhedeg
…byddwch yn rhan o gymdeithas weithgar sy’n hybu, cefnogi a chroesawu pawb o bob oed
…ymunwch â Menter Ty’n Llan am cyn lleied â £100 Fedrwch chi ein helpu?!

Bydd pob buddsoddiad, bach neu fawr, yn dod â ni yn nes at y nod.

Bywyd teg

  • Adeiladwyd Ty’n Llan yn yr 1860au yn rhan o stad Glynllifon
  • Mae’n adeilad hanesyddol a thrawiadol rhestredig Gradd II ac yn galon i bentref hardd Llandwrog
  • O Eben Fardd i Edward H – mae beirdd, cantorion ac enwogion o fri wedi cwrdd yma ar hyd y blynyddoedd

Byd diogel

  • Ddwy flynedd a hanner yn ôl, ar ôl bod ar gau am bedair blynedd, rhoddwyd Ty’n Llan ar y farchnad. Yn dilyn cyfarfodydd cyhoeddus a chefnogaeth gref gan y gymuned fe lansiwyd apêl i achub y dafarn
  • Diolch i gefnogaeth 1013 o unigolion, fe godwyd £463,700 ac fe brynwyd yr adeilad ym Mehefin 2021
  • Ers Rhagfyr 2021, mae’r dafarn wedi bod ar agor unwaith eto ac wedi trawsnewid bywyd y pentref a’r gymuned gyfagos
  • Rydym wedi llwyddo i ddenu cefnogaeth gan nifer o gynlluniau grant ac mae sawl cais arall gennym dan ystyriaeth. Nawr rydym angen troi atoch chi ein cefnogwyr unwaith eto i godi £150,000 arall fel rhan o’r ymdrech eithriadol i drawsnewid ein tafarn ac i wireddu ein hamcan o ‘ddod â phobl ynghyd’

A diod dda doed a ddel

Trwy gyrraedd y nod ariannol, bydd modd cyflawni ein gweledigaeth lawn:

  • adnewyddu ac ailfodelu’r tu mewn yn llwyr
  • estyniad cefn gyda golygfeydd o’r Eifl ar gyfer bwyty a digwyddiadau cymunedol
  • pum ystafell wely en-suite
  • ystafell aml bwrpas sydd ar gael i’w llogi am dâl rhesymol gan y gymuned
  • ardal barcio newydd gyda phwyntiau gwefru
  • gardd ddeniadol sy’n croesawu teuluoedd
  • rhaglen o weithgareddau treftadaeth sy’n rhoi profiadau cyfoethog i ymwelwyr a thrigolion lleol

Mynnwch siâr, dewch â’ch arian Brysiwch,

chwaraewch eich rhan!

Ymunwch â Ni!

Mae’r Cynnig yma i brynu cyfranddaliadau yn aros ar agor am gyfnod amhenodol!

Mae prynu cyfranddaliadau yn eich gwneud chi’n aelod o’r gymdeithas ac yn rhoi llais i chi ar sut mae’n cael ei rhedeg. Mae gan bob aelod un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau maen nhw’n eu prynu. Cost un cyfranddaliad yw £100 a’r uchafswm gellir ei fuddsoddi yw £50,000. Bydd pob buddsoddiad, bach neu fawr, yn dod â ni yn nes at y nod.

Rhaid bod o leiaf 16 oed i fuddsoddi, ond gellir prynu cyfranddaliadau ar ran plentyn. Efallai y byddwch yn derbyn llog ar eich buddsoddiad yn y dyfodol.

Dogfennau Cyfranddaliadau

Cynnig Cyfranddaliadau
Cynllun Busnes
Elw a Cholled
Rheolau Cymdeithas Budd Cymunedol Menter Ty’n Llan

Unrhyw gwestiynau? Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin, neu cysylltwch â’r Trysorydd ar 01286 830640 neu siars@tynllan.cymru

Ffurflen Fuddsoddi

Gofynnwn yn garedig i chi anfon eich taliad arlein cyn gynted â phosibl ar ôl cyflwyno’ch ffurflen gofrestru.

Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith gweinyddol yn fawr. Cyhoeddir derbynebau trwy e-bost lle bynnag y bo modd i leihau costau gweinyddol. Bydd tystysgrif cyfranddaliad yn cael ei anfon atoch maes o law.