Digwyddiadau

Hoffech chi gynnal cyfarfod neu ddigwyddiad yn Nhy’n Llan? Cysylltwch â ni i holi

medi, 2024

Bore coffi

Dewch i roi’r byd yn ei le dros baned o de neu goffi!

Pob dydd Gwener 10.30-12

Clwb Cerdded

Mae’n bwysig iawn i unrhyw gymuned gadw’n gorfforol weithgar, felly beth am ymuno â Chlwb Cerdded Ty’n Llan? Bob wythnos (os bydd y tywydd yn caniatau), mae’r clwb yn trefnu cyfres o deithiau cerdded yn yr ardal, gydag anhawster a phellter yn amrywio i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ymuno. Mae’r teithiau cerdded fel arfer yn cychwyn yn Ty’n Llan a naill ai’n cwblhau cylchdaith oddi yno, neu gyrru pellter byr i’r man cychwyn i gwblhau’r daith, lle bynnag y bo! Mae’r clwb hefyd bob amser yn ceisio gorffen yn Ty’n Llan am banad bach! Os hoffech chi ymuno, cysylltwch â Meinir Williams ar 07717 488177 – croeso i bawb!

pob dydd Gwener 9.30

Clwb Dysgwyr Cymraeg

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Dewch i ymarfer sgwrsio yn Ty’n Llan, Llandwrog rhwng 7.30 a 8.30 ar nos Iau olaf pob mis – croeso i ddysgwyr ar bob lefel. Neu ydych chi’n siaradwr Cymraeg ac yn awyddus i helpu dysgwyr lleol i ymarfer eu Cymraeg? Byddai croeso mawr i chithau hefyd. 

Dyddiadau’r sesiynau nesaf: 31 Mawrth, 28 Ebrill, 26 Mai, 30 Mehefin

Ty’n Llan Ni

Mae dyfodol Ty’n Llan yn nwylo ein pobl ifanc. Trwy gymorth grant Gwirfoddolwyr Ifanc Mantell Gwynedd, rydym wedi sefydlu prosiect pobl ifanc – ‘Ty’n Llan Ni’ er mwyn sicrhau eu cyfraniad a’u llais nhw i’r gwaith o ddatblygu Ty’n Llan.  Mae sawl gweithdy cyffrous wedi’i drefnu ac rydym yn edrych ‘mlaen i rannu beth fydd y bobl ifanc wedi’i greu a’i gyflawni. Ar gyfer pobol ifanc oed 11+

11/2/22
Nos Wener 6-7
Gweithdy Brandio/Creu Logo efo Derick Murdoch, Cwmni Galactig
16/2/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
19/2/22
Dydd Sadwrn 11:30-1:30
Gweithdy Ffotograffiaeth Richard Jones
2/3/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
9/3/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
18/3/22
Nos Wener 6-7
Gweithdy Barddoni Mei Mac
26/3/22
Dydd Sadwrn 11:30-1:30
Gweithdy Celf Argraffu Mandy Roberts
1/4/22
Nos Wener 6-7
Cyflwyno Wordfoto / Sesiwn hwyl Bingo
6/4/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
27/4/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
4/5/22
Nos Fercher 6-7
Gweithdy Celf Sioned Glyn
I’w gadarnhau
Gweithdy creu mygiau
I’w gadarnhau
Gweithdy Digidol Owain Llyr
I’w gadarnhau
Premiere ffilm ‘Ty’n Llan Ni!’