2 oedolyn
Mae gwely maint brenin (king-size) yn y stafell gyfforddus hon, ac mae’n edrych allan draw at Eglwys Sant Twrog.
Ensuite gyda chawod.
Mae’r ystafell hon wedi’i henwi ar ôl Arianrhod, merch i’r dduwies Dôn a chwaer i Gwydion yn y Mabinogion—straeon cynharaf yr iaith Gymraeg. Ewch i’n tudalen Treftadaeth i ddysgu mwy am y cymeriadau chwedlonol sydd a’u henwau ar ein stafelloedd yma yn Nhy’n Llan.