Lleu

2 oedolyn a 2 o blant

neu 3 oedolyn

Dyma ein stafell fwyaf ac mae’n cynnwys un gwely brenin mawr (superking) sy’n gallu troi yn ddau wely sengl. Mae yna hefyd wely cadair sengl, a gwely agor allan (fwyaf addas ar gyfer plentyn). Mae’n stafell ddelfrydol ar gyfer teulu ifanc neu grŵp bach. 

Mae’r ystafell fawr yn cynnwys gofod braf i eistedd ble gallwch fwynhau golygfa banoramig o fynyddoedd yr Eifl. 

Mae yma hefyd stafell ymolchi gwbl hygyrch, sydd â chawod agored (wet room), a bath yng nghanol y stafell. 

Mae’r stafell foethus hon yn gwbl hygyrch, a gellir cael mynediad iddi yn syth o’r lifft sy’n dod fyny i’r llawr cyntaf. 

Mae’r ystafell hon wedi’i henwi ar ôl Lleu, mab Arianrhod yn y Mabinogion—straeon cynharaf yr iaith Gymraeg.  Ewch i’n tudalen Treftadaeth i ddysgu mwy am y cymeriadau chwedlonol sydd a’u henwau ar ein stafelloedd yma yn Nhy’n Llan. 

Ty'n Llan

Cartref oddi cartref

Cyfleusterau

Te a choffi
Teledu Clyfar

Ensuite

Sychwr gwallt
Tywelion
Siampŵ, sebon cawod, sebon dwylo

Bwyta

Brecwast ysgafn yn gynwysedig

Rhyngrwyd


WIFI am ddim

Hygyrchedd

Lifft hygyrch i’r llawr cyntaf
Mae stafell hygyrch foethus ar gael

Parcio

Lle i 24 car
Pwyntiau gwefru ar gyfer 2 gerbyd trydan