Skip to main content

Eisteddfod Dafarn

sat04jul2:00 pm11:00 pmEisteddfod Dafarn

Event Details

Mae Eisteddfod Dafarn Ty’n Llan yn ei hôl! Cynhelir yr eisteddfod eleni yn ystafell bwyty newydd Ty’n Llan, gydag ystod eang o gystadlaethau ysgafn, doniol a hwyliog i bawb o bob oed. Ewch i weld y Rhestr Testunau, a lawrlwytho darnau gosod y cystadlaethau canu a llefaru oed cynradd.

Bydd sesiwn y prynhawn yn cychwyn am 2 o’r gloch gyda chystadlaethau addas i’r teulu – yn blant ac oedolion.

Bydd sesiwn y nos yn cychwyn am 7 o’r gloch – addas i oedolion yn unig!

Y cyflwynydd a’r digrifwr Dilwyn Morgan fydd arweinydd y dydd; beirniaid y llwyfan fydd Nia Morgan ac Idris Morris Jones a’r beirniad llên fydd y Prifardd Rhys Iorwerth.

Mynediad am ddim! Dewch i gymryd rhan neu i gael eich diddanu.

Diolch am gefnogaeth Cronfa Celfyddydau Cymunedol Gwynedd.

more

Time

4 July 2026 2:00 pm - 11:00 pm(GMT+00:00)