Sut mae prynu cyfranddaliadau?

Llenwch y ffurflen fuddsoddi naill ai ar-lein neu ar bapur y dewch o hyd iddi ar gefn y daflen farchnata sydd wedi cael ei dosbarthu’n eang neu yn y ddogfen cynnig cyfranddaliadau llawn y gallwch ei hargraffu yma.

Faint mae un cyfranddaliad yn ei gostio?

Gwerthir ein cyfranddaliadau fesul £100. Yr isafswm y gallwch ei fuddsoddi yw £100 a’r uchafswm yw £50,000. Ni allwn dderbyn symiau nad ydynt yn lluosrif o £100 megis £50, £150, £350 ac ati.

A allwn ni brynu cyfranddaliad yn enwau mwy nag un person?

Gallwch, gallwch brynu cyfranddaliadau yn enwau mwy nag un person. Fodd bynnag, os ydych chi’n prynu mwy nag un cyfran (h.y. yn buddsoddi mwy na £100) mae’n werth ystyried eu rhannu rhwng y bobl dan sylw. Fel yna fe fyddwch i gyd yn dod yn aelodau o’r Gymdeithas ac yn cael pleidlais unigol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Sut mae talu am gyfranddaliadau?

Gallwch dalu naill ai gyda siec yn daladwy i Menter Ty’n Llan Cyf a’i hanfon at Menter Ty’n Llan, d/o Bodryn, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TN neu drwy drosglwyddiad banc i Menter Ty’n Llan Cyf, cod didoli 60-83-01, rhif cyfrif 20439554, gan ddefnyddio llinell gyntaf eich cyfeiriad fel cyfeirnod.

A allwn ni wneud un trosglwyddiad banc ar gyfer sawl cyfranddaliwr?

Os oes mwy nag un person yn eich cartref yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau ar yr un pryd, gallwch wneud un trosglwyddiad banc gan mai’r cyfeirnod y mae angen i chi ei ddefnyddio yw llinell gyntaf eich cyfeiriad. Os ydych yn talu am gyfranddaliadau ar ran rhywun sy’n byw mewn cyfeiriad gwahanol, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar wahân fel bod cyfeirnod y taliad yn cyfateb i’w cyfeiriad nhw.

A allaf roi cyfranddaliadau fel anrheg?

Gallwch, gallwch brynu cyfranddaliadau ar ran rhywun arall fel anrheg. Llenwch ffurflen unigol ar eu rhan. Os ydynt yn byw gyda chi (plentyn dros 16 oed er enghraifft) gallwch wneud un trosglwyddiad banc ar gyfer cyfanswm buddsoddiad yr aelwyd. Os ydynt yn byw mewn cyfeiriad gwahanol, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar wahân fel bod cyfeirnod y taliad yn cyfateb i’w cyfeiriad nhw.

A allaf brynu cyfranddaliadau i blentyn?

Gallwch, llenwch y meysydd perthnasol ar y ffurflen fuddsoddi. Ni fyddant yn aelodau llawn ac ni fyddant yn gallu pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nes eu bod yn 16 oed, ond byddant yn gymwys i dderbyn llog ar eu buddsoddiad yn union fel pawb arall.

A allaf brynu cyfranddaliadau fel busnes, cwmni neu sefydliad?

Gallwch, rhowch enw llawn y busnes, y cwmni neu’r sefydliad yn y maes Enw Llawn wrth lenwi’r ffurflen.

A yw’r cynnig cyfranddaliadau ar gyfer pobl leol yn unig?

Mae’r cynnig cyfranddaliadau ar gyfer pawb.  Rydym yn cydnabod y bydd y cynnig cyfranddaliadau yn apelio at bobl leol a phobl o fannau eraill sy’n credu yng nghenhadaeth Menter Ty’n Llan ac eisiau cefnogi’r achos.  Mae arnom eisiau denu buddsoddiad a chefnogaeth gan bobl ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd!

A allaf brynu cyfranddaliadau os wyf yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Gallwch, rydym yn croesawu cefnogaeth gan gyfranddalwyr o bob cwr o’r byd! Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu’r trosglwyddiad banc mewn GBP / Sterling er mwyn i ni dderbyn gwerth llawn y cyfranddaliadau a brynwyd.

A allaf brynu cyfranddaliadau fwy nag unwaith?

Byddwch yn gallu prynu cyfranddaliadau fwy nag unwaith yn ystod y cyfnod 6 wythnos pan mae’r cynnig cyfranddaliadau yn agored. Mae’r cynnig cyfranddaliadau cyfredol hwn yn cau ar 12 Tachwedd 2023.

A allaf brynu cyfranddaliadau os wyf eisoes yn aelod?

Gallwch. Ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen fuddsoddi er mwyn i ni gael ychwanegu eich buddsoddiad newydd i’ch aelodaeth presennol.

Sut ydw i’n gwybod eich bod wedi derbyn fy ffurflen fuddsoddi?

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen fuddsoddi ar-lein byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda chrynodeb o’ch manylion. Os nad ydych wedi ei dderbyn, edrychwch yn eich ffolder sbam. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni ar siars@tynllan.cymru. Anfonir tystysgrifau cyfranddaliadau trwy’r post at bob buddsoddwr.

Rwyf yn cael trafferth gwneud trosglwyddiad banc

Rydym wedi clywed bod rhai cwsmeriaid yn gweld rhybudd gan eu banc wrth geisio talu i mewn i gyfrif Menter Ty‘n Llan. Mae hyn oherwydd rhywbeth newydd o’r enw ‘Cadarnhad Talai / Confirmation of Payee’, sydd wedi’i gynllunio i atal pobl rhag anfon arian at y derbynnydd anghywir ar ddamwain.

Mae unrhyw daliwr newydd rydych wedi ei greu yn eich bancio ar-lein bellach yn cynnwys gwiriad ychwanegol i sicrhau bod yr enw rydych wedi ei nodi yn cyfateb i’r enw ar gyfrif y derbynnydd.

Weithiau mae rhybuddion yn ymddangos hyd yn oed pan fo’r holl fanylion yn gywir. Rydym yn defnyddio’r Unity Trust Bank sy’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau i gymdeithasau budd cymunedol fel ein un ni. Er gwaethaf y rhybuddion hyn, mae mwyafrif helaeth ein cefnogwyr yn llwyddo i dalu i mewn i’n cyfrif oherwydd bod y manylion yn gyfreithlon.

A allaf gael copïau papur o’r cynnig cyfranddaliadau llawn a’r cynllun busnes?

Gallwch. I ofyn am gopïau caled o’r dogfennau, cysylltwch â’n Trysorydd ar 01286 830640 neu siars@tynllan.cymru

Pam ydych chi’n gwerthu cyfranddaliadau nawr?  

Bydd arian grantiau, gobeithio, yn talu am y rhan fwyaf o’r gwaith adeiladu er mwyn cyflawni’r weledigaeth, ond mae angen cyfraniad pellach gan y Gymdeithas er mwyn cyrraedd y nod.

A fyddaf yn cael fy arian yn ôl ar ryw adeg? Ac a fyddaf yn derbyn adroddiad blynyddol ar fy nghyfranddaliadau? 

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn gyfalaf cyfranddaliadau y gellir eu tynnu’n ôl a ddyroddir yn unigryw gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol i godi arian ac i brynu asedau er budd y gymuned.  Ein nod yw talu llog blynyddol o oddeutu 2% unwaith y bydd tair blynedd lawn o fasnachu wedi’i gwblhau ac os cynhyrchir digon o elw.  Ar ôl 5 mlynedd, gallwch ein hysbysu eich bod yn dymuno tynnu’ch cyfranddaliadau yn ôl. Bydd y Pwyllgor Rheoli yn cynnig canllawiau i’r Cyfarfod Blynyddol i ddelio â cheisiadau tynnu’n ôl. Mae’n debygol y bydd terfyn blynyddol ar dynnu arian yn ôl ar yr amod bod y Gymdeithas yn cadw digon o gronfeydd wrth gefn neu fod cyfalaf newydd yn dod i mewn.  Darllenwch ein dogfen Cynnig Cyfranddaliadau llawn i gael rhagor o wybodaeth.

Maes o law, a allaf adael cyfranddaliadau i’m teulu yn fy ewyllys?

Gallwch. Bydd angen i’r Gymdeithas gofrestru’r newid enw.

A allaf werthu neu drosglwyddo cyfranddaliadau i rywun arall? Beth fyddai eu gwerth?

Na ellwch. Dim ond y Gymdeithas all brynu’ch cyfranddaliadau yn ôl, yn unol â’r canllawiau tynnu’n ôl. Dim ond am y pris a dalwyd amdanynt y cânt eu prynu’n ôl.

Pa sicrwydd sydd i bobl sy’n prynu cyfranddaliadau?

Nid yw’r Gymdeithas yn cynnig sicrwydd i’r rhai sy’n prynu cyfranddaliadau. Fodd bynnag, pe bai’r fenter yn cau ei drysau, byddai’n bosibl gwerthu’r asedau a dychwelyd cyfalaf i aelodau hyd at werth y buddsoddiadau gwreiddiol, ar ôl i’r holl ddyledion eraill gael eu talu.

Beth fydd yn digwydd os na werthir digon o gyfranddaliadau?

Os na fyddwn yn gwerthu digon, neu os na fydd ein ceisiadau grant i gyd yn llwyddo, byddwn yn y lle cyntaf yn chwilio am gyfleoedd i ail-gyflwyno ceisiadau grant, ac wedyn yn edrych am ffyrdd i addasu’r cynlluniau fel bod rhai elfennau yn cael eu cwblhau tra’n bod yn parhau i chwilio am ffyrdd o orffen y daith.

Sut fyddaf i yn clywed am gynnydd y fenter?

I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook, Instagram neu Twitter. Fel aelod, byddwch hefyd yn derbyn diweddariadau ar ffurf newyddlen e-bost.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach na chawsant eu hateb yma, mae croeso i chi gysylltu â’n Trysorydd ar 01286 830640 neu siars@tynllan.cymru