Ebrill 2021 - Lawnsio’r Cynnig i brynu Siârs a’r Cynllun Busnes

Gyda chymorth Sefydliad Plunkett a Chanolfan Cydweithredol Cymru, aed ati i baratoi Cynllun Busnes a Chynnig i Fuddsoddi mewn Cyfranddaliadau yn y Gymdeithas a lansiwyd ymgyrch hyrwyddo egniol gyda tharged o £400,000. Cafwyd tipyn go lew o sylw ar y cyfryngau a negeseuon di-baid ar y cyfryngau torfol, gydag enwogion y byd chwaraeon a Hollywood yn datgan eu cefnogaeth.