Croeso cynnes i Ty’n Llan!

Mae bar newydd Ty’n Llan AR AGOR – dewch draw i weld y newidiadau!

Mae dal gwaith adeiladu yn mynd ymlaen ar y safle, a tydi’r maes parcio ddim yn barod eto, ond cewch barcio yn yr ysgol a mwynhau diod yn y bar neu yn yr ardd. Bydd gwefan newydd ar y ffordd yn fuan hefyd!

Ein oriau agor

Llun

16:00 - 22:00

Mawrth

16:00 - 22:00

Mercher

16:00 - 22:00

Iau

16:00 - 23:00

Gwener

10:30 - 23:00

Sadwrn

12:00 - 23:00

Sul

12:00 - 20:00

Y Cwt Gwerthu – Siop Gymunedol

Cynnyrch lleol, hanfodion bwyd ac ambell beth moethus. Bara a llefrith ffres, cigoedd, cacennau a llawer mwy!
Ar agor pob dydd yn yr ardd 8am-8pm, system taliadau gonestrwydd trwy gerdyn neu arian parod.

Mae tafarn Ty’n Llan yn eiddo i’r gymuned ac wedi ei leoli ym mhentref tlws Llandwrog ger Caernarfon yng Ngwynedd. Nepell o Barc Glynllifon, tref hanesyddol Caernarfon, mynyddoedd yr Eifl a thraeth godidog Dinas Dinlle – dewch draw i gael diod yn awyrgylch braf a Chymreig yr adeilad hanesyddol hwn.

Cynllun buddsoddi a ariennir gan:

Cefnogir ein gweithgareddau gan: