Cyfle

DATGANIAD DIDDORDEB: Partner Bwyd ar gyfer Ty’n Llan, Llandwrog

Awydd rhedeg ein cegin fel menter eich hunain? (drwy “franchise” neu bartneriaeth) Dewch i gysylltiad i drafod!  

Mae Ty’n Llan yn dafarn gymunedol yng nghalon pentref Llandwrog, Gwynedd. Rydym yn agosáu at gwblhau gwaith adnewyddu gwerth £2.5m sy’n cynnwys bar newydd, cegin broffesiynol, bwyty modern ac 5 ystafell wely o safon uchel.

Bydd Ty’n Llan yn cynnwys cegin fasnachol newydd sbon gydag offer proffesiynol.  Bydd gofod bwyty deniadol pwrpasol (tua 60 sedd), ardal bar (tua 30 sedd), gardd a teras allanol, mae potensial i ddarparu ar gyfer o leiaf 100 o bobl arall tu mewn a thu allan.

Mae’r cynllun wedi’i ddylunio’n ofalus i alluogi gweini bwyd effeithiol gyda chysylltiad uniongyrchol â phrif far y dafarn a golygfeydd dros ardd y dafarn. Mae’r gwaith adnewyddu sylweddol wedi sicrhau fod y cyfleusterau o ansawdd uchel ac yn cynnig profiad bwyta braf sy’n dathlu cynnyrch lleol a chroeso Cymreig.

Anfonwch eich Datganiad Diddordeb erbyn Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 i: post@tynllan.cymru

Lawrlwytho Manylion
Ymgeisio