Skip to main content

Swyddi

SWYDD AR GAEL: RHEOLWR BUSNES

Dewch i weithio atom yma yn Ty’n Llan, menter cymunedol sydd yn datblygu ac yn ehangu!

Swydd newydd gyffrous fydd yn cynorthwyo staff i sicrhau rhediad effeithlon Ty’n Llan.

Cyflog: £31,500

Oriau: Llawn amser   

Lleoliad: Ty’n Llan, Llandwrog 

Pwrpas y Swydd:

Rheoli, gweinyddu a chydgordio ochr fusnes ac ariannol Tafarn Ty’n Llan, gan gydweithio gyda’r rheolwyr a’r staff eraill, y gwirfoddolwyr a’r Pwyllgor Rheoli i gynnal menter a busnes gymunedol hyfyw a llewyrchus.

Cliciwch ar y bottom i’r dde i lawrlwytho copi o’r swydd ddisgrifiad llawn.

Dyddiad Cau: 5pm 6 Mai 2025

I wneud cais, gyrrwch lythyr blaen yn egluro pam eich bod yn ymgeisio am y swydd a chynnwys CV cyfredol drwy ebost i:

post@tynllan.cymru

Lawrlwytho Swydd Ddisgrifiad
Ymgeisio

*Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon