Menter Ty’n Llan

Ein cynnig i brynu cyfranddaliadau

Bywyd teg

  • Adeiladwyd Ty’n Llan yn yr 1830au yn rhan o stad Glynllifon
  • Mae’n adeilad hanesyddol a thrawiadol rhestredig Gradd II ac roedd yn galon i bentref hardd Llandwrog
  • O Eben Fardd i Edward H – mae beirdd, cantorion ac enwogion o fri wedi cwrdd yma ar hyd y blynyddoedd

Byd diogel

  • Caewyd y drysau yn 2017 ac ers hynny mae’r pentref wedi colli yr unig le i gwrdd a chymdeithasu
  • Ym mis Chwefror 2021 dangosodd dros 100 o bentrefwyr eu brwdfrydedd dros ddiogelu dyfodol Ty’n Llan ac o fewn ychydig ddyddiau derbyniwyd benthyciadau dros dro gan drigolion lleol i ganiatau’r gymuned i brynu’r adeilad ar frys
  • Sefydlwyd Menter Ty’n Llan, Cymdeithas Budd Cymunedol, gyda 14 aelod profiadol ar y Pwyllgor Rheoli
  • Nawr rhaid codi o leiaf £400,000 fel ein cyfraniad ni at brosiect sy’n mynd i gostio £850,000 i greu canolbwynt cymunedol cyfoes a chyffrous

A diod dda doed a ddel

Trwy gyrraedd y nod ariannol, bydd modd cyflawni ein gweledigaeth lawn

  • bar, cegin a bwyty cyfoes
  • pedair ystafell wely en-suite gyda chornel cegin
  • estyniad cefn gyda golygfeydd o’r Eifl
  • ystafell aml bwrpas ar gyfer digwyddiadau cymunedol, partïon preifat a gwledda
  • gardd gwrw ddeniadol i’r teulu cyfan gyda chegin allanol
  • digonedd o le parcio gyda phwynt gwefru ar gyfer ceir trydan

Yn Ty’n Llan rhaid Tynnu llwch
O’i far annwyl – Cyfrannwch!

Ymunwch â Ni!

Dyddiad cau i brynu cyfranddaliadau:

11 Mehefin 2021

Mae prynu cyfranddaliadau yn eich gwneud chi’n aelod o’r gymdeithas ac yn rhoi llais i chi ar sut mae’n cael ei rhedeg. Mae gan bob aelod un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau maen nhw’n eu prynu. Cost un cyfranddaliad yw £100 a’r uchafswm gellir ei fuddsoddi yw £50,000. Buddsoddwch yn hael!

Rhaid bod o leiaf 16 oed i fuddsoddi, ond gellir prynu cyfranddaliadau ar ran plentyn. Efallai y byddwch yn derbyn llog ar eich buddsoddiad yn y dyfodol ac mae posibilrwydd y byddwch yn derbyn Ryddhad Treth Buddsoddi Cymdeithasol (SITR). 

Ffurflen Fuddsoddi